Mae Addysg Gymunedol Cyngor Sir Ceredigion yn rhan o Wasanaethau Dysgu Cyngor Sir Ceredigion. Ein nod yw darparu cyfleoedd dysgu i drigolion Ceredigion yn eu cymunedau fydd yn eu hannog i ddatblygu diddordebau newydd, gweithio tuag at gymhwyster neu wella’u sgiliau ar gyfer y gweithle.
Mae Dysgu Bro yn rhan o’r Bartneriaeth Addysg Gymunedol sy’n cynllunio a chydlynu addysg gymunedol yng Ngheredigion.
Rydym yn mawr obeithio y dowch o hyd i gwrs sy’n eich diddori ar y tudalennau hyn. Os na, rhowch wybod i ni beth yr hoffech weld yn cael ei ddarparu ac fe wnawn ein gorau i gwrdd â’ch gofynion.
Asiantaethau Eraill
Mae Dysgu Bro yn rhan o’r Bartneriaeth Addysg Gymunedol sy’n cynllunio a chydlynu addysg gymunedol yng Ngheredigion.
Rhestrir isod aelodau’r bartneriaeth yn ogystal ag asiantaethau eraill gallai fod o ddiddordeb.