Creadigrwydd

Trefnu Blodau

Ar y cwrs hwn byddwch yn dysgu camau sylfaenol trefnu blodau gan gynnwys: sut i baratoi’r coesau; sut i ddefnyddio blodau a dail sydd ar gael i chi; dulliau saernio ac elfennau ac egwyddorion cynllunio. Byddwch yn dysgu sut mae trefnu blodau mewn fâs ac fel tusw i ddal mewn llaw.

Ffioedd 2020/2021

  • £50

Celf

Cyflwyniad i dyluniad sylfaenol a marc ffurfiad.

Graffeg, Teip a Dyluniad

Bydd y cwrs hwn yn cyflwyno egwyddorion ac elfennau sylfaenol dylunio graffig. Byddwch yn edrych ar hanes dylunio graffig yn ystod y can mlynedd diwethaf yn ogystal â theipograffeg, cyfathrebiad a lliw.

Ffotograffiaeth

Cyflwyniad i Ffotograffiaeth “DSLR”

Os ydych yn cael trafferth gyda chamau cyntaf Ffotograffiaeth “DSLR”, yna dyma’r cwrs i chi. Byddwch yn dysgu sut i ddewis yr agorfa a dyfnder maes priodol ar gyfer gwrthrychau gwahanol yn ogystal â chyflymder saethu i rewi gwrthrychau neu ddal ymdeimlad o symudiad yn eich llun.

Golygu fy lluniau gyda Photoshop

Ar ôl sesiwn ffotograffiaeth gyda’n tiwtor cymwysedig gallwch ddysgu sut i ddefnyddio Photoshop ar eich lluniau eich hun ac efallai hyd yn oed eu gwella nhw!

Adfer Lluniau

Dysgwch dechnegau i ddod â hen luniau’n fyw wrth drwsio rhwyg neu rannau o lun sydd wedi’i ddifrodi, gwella’r lefel o fanylder ac ychwanegu lliw lle nad oedd yn bodoli o’r blaen.

Ffotograffiaeth a golygu drwy defnyddio iPad

Cynghorion a thriciau golygu ffotograffiaeth o’n ffotograffydd a thiwtor TG cymwys. P’un a ydych yn ffotograffydd proffesiynol sy’n hoffi teithio’n ysgafn neu ffotograffydd achlysurol sydd yn hoffi y cyfleustra o ddefnyddio iPad, mae yna nifer o apps ar gyfer golygu lluniau. Cewch i’r afael â defnyddio’r camera yn ogystal â defnyddio apps golygu am ddim.

Delweddau Digidol

Dysgwch sut: i wneud y defnydd gorau o’ch Camera Digidol, tynnu lluniau gwell, sut i ddefnyddio sganiwr, trosglwyddo, cadw ac argraffu delweddau. Dysgwch sgiliau golygu sylfaenol gydag Adobe Photoshop. Bydd angen eich camera digidol eich hun arnoch.

Ffotograffiaeth Ddigidol

Mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio i roi cyflwyniad i’r dysgwyr i’r sgiliau a’r damcaniaethau sy’n berthnasol i ffotograffiaeth ddigidol a golygu delweddau. Bydd dysgwyr yn archwilio’r defnydd o gamerâu digidol a meddalwedd trin delweddau a datblygu sgiliau ymarferol yn y ddau faes. O ffotograffiaeth macro i ffotograffiaeth tirlun. O ddu a gwyn i liw.

Digidol

Cyhoeddi Bwrdd Gwaith

Mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio ar gyfer y rhai sydd ag ychydig neu dim profiad o defnyddio Publisher sydd am ddysgu sgiliau sylfaenol sydd yn angenrheidiol i ddechrau defnyddio’r rhaglen yn effeithiol. Dysgwch am egwyddorion gosodiad a dyluniad sy’n angenrheidiol i greu deunyddiau marchnata proffesiynol. Crëwch taflenni, llyfrynnau, cylchlythyrau a mwy gan ddefnyddio’r Dewiniaid.

Dylunio Gwefan

Bydd y cwrs yma yn darparu cyflwyniad i dylunio gwefan i’ch helpu i greu gwefan eich hunan.

Cynnwys y cwrs:

  • dyluniadau da a gwael
  • cynllunio
  • defnyddio lluniau
  • creu baneri
  • llywio

Creu Blog

Mae’r cwrs hwn ar gyfer unrhyw un sydd am rannu eu meddyliau a syniadau drwy creu blog ar y Rhyngrwyd. Ar ôl ei creu, byddwch yn gallu diweddaru eich blog yn rheolaidd gydag unrhyw wybodaeth yr ydych eisiau ei rhannu.

Sylwer: Gellir cyflwyno cyrsiau yn Gymraeg, yn Saesneg neu’n ddwyieithog, rhowch wybod i ni beth yw eich dewis iaith