Cadw’n Heini
Nod y cwrs yw cynyddu eich nerth, cryfder ac ystwythder. Bydd Stamina yn eich helpu i gadw i fynd heb flino yn gyflym. Mae angen cryfder ar gyfer gweithgareddau beunyddiol o gwmpas y cartref. Trwy gynyddu cryfder cyhyrol ac ystwythder byddwch yn llai tebygol o ddioddef ysigiadau ac anafiadau ac yn cadw’n fywiog wrth fynd yn hŷn.
Ffioedd 2020/2021
- £42
Meddyginiaethau Blodau Bach
Mae’r cwrs hwn yn eich dysgu am hanes, defnydd, ac effeithiau rhin blodau, mae hefyd yn cynnig cyngor ymarferol ar amrywiaeth o broblemau sy’n aml yn cael eu trin gan rin blodau. Rhin blodau yw’r hyn a dynnir o flodau gan ei lastwreiddio a defnyddir ef i wella iechyd emosiynol, ysbrydol, a chorfforol pobl ac anifeiliaid.
Cyflwyniad i Wyddor Fforensig Safleoedd Troseddau
Bydd y gweithdy hwn yn edrych ar rhai o’r dulliau sylfaenol a ddefnyddir gan Archwilwyr Safleoedd Troseddau a Gwyddonwyr Fforensig i archwilio safle trosedd. Byddwch yn cymryd rhan mewn gweithgareddau fydd yn eich annog i weld y tu hwnt i ddramâu tebyg i ‘CSI’, gan ddechrau archwilio’r amrywiaeth o dystiolaeth a dulliau a ddefnyddir i ddarganfod Pwy’naethe?
- Cyflwyniad i wyddor fforensig
- Archwilio safle trosedd – edrych ar y dystiolaeth, gan gynnwys: Olion bysedd, Tystiolaeth ‘olion’, e.e. ffibrau, DNA
- Sut mae safle trosedd yn cael ei archwilio?
Defnyddio Cwponau i’r Eithaf
Arian braidd yn dynn? Wedi gweld y llwyddiannau Cwponwyr Eithaf ar y teledu ac ar y we? Dewch draw i’r cwrs hwn a chael gwybod sut i wneud cyllideb eich cartref ymestyn ymhellach gan ddefnyddio talebau, cynigion yn y siopau, gwefannau cymharu, apps a llwaer mwy. Cymerwch y prawf blasu, allwch chi ddweud beth sy’n brand neu beidio?
Sylwer: Gellir cyflwyno cyrsiau yn Gymraeg, yn Saesneg neu’n ddwyieithog, rhowch wybod i ni beth yw eich dewis iaith