Sgiliau Bywyd

Gwella eich darllen a ysgrifennu

Dosbarthiadau AM DDIM er mwyn i oedolion wella’ch darllen, ysgrifennu, sillafu a sgiliau cyfarthrebu. Gallwn eich cefnogi os ydych am:

  • gloywi eu sgiliau
  • gael cymorth er mwyn ennill TGAU neu NVQ

Os dymunwch, gallwch ddatblygu eich sgiliau llythrennedd digidol drwy wethio gyda'ch tiwtor er mwyn cyhoeddi eich gwaith ar-lein drwy wefan neu flogio beth yr ydych wedi ei greu eich hun.

Byddwch yn gweithio ar gyflymder sy'n addas i chi, mewn awyrgylch hamddenol cyfeillgar gyda thiwtoriaid sydd wedi’u hyfforddi i weithio gydag oedolion.

Gwella eich Mathemateg

Dosbarthiadau AM DDIM er mwyn i oedolion wella’ch mathemateg a sgiliau cyfathrebu. Gallwn eich cefnogi os ydych am:

  • gloywi eu sgiliau
  • gael cymorth er mwyn ennill TGAU neu NVQ

Byddwch yn gweithio ar gyflymder sy'n addas i chi, mewn awyrgylch hamddenol cyfeillgar gyda thiwtoriaid sydd wedi’u hyfforddi i weithio gydag oedolion.

Nod hyn yw datblygu gallu i gyfathrebu â phobl byddar mewn BSL ar ystod o bynciau sy'n cynnwys defnyddio iaith syml, bob dydd, fel gwybodaeth bersonol, sillafu bys, rhifau, lliwiau, y tywydd, trafnidiaeth, cyfarwyddiadau, diddordebau, bwyd a diod. Mae'r cwrs hwn yn addas ar gyfer dysgwyr heb unrhyw wybodaeth blaenorol am BSL.

Bwriad y cymhwyster hwn yw gwella profiadau a datblygu cyfathrebu pobl Fyddar drwy’r Iaith Arwyddion Prydain (BSL) gyda gan ddelio â phynciau bob dydd yn ymwneud â bywyd cymdeithasol a’r gwaith, ysgol neu goleg.

Bydd cwrs Lefel A2 yn datblygu cyfathrebu mewn BSL yn fwy manwl na Lefel 1, a bydd angen deall mwy o ramadeg i ymdopi â pheth iaith llai arferol.

Ydych chi'n brin o hyder wrth siarad â phobl neu mewn sefyllfaoedd anghyfarwydd? Dysgwch dechnegau ymarferol i godi eich hyder a’ch hunan-barch.

Bydd y cwrs hwn yn eich helpu i adnabod beth mae cyflogwyr yn chwilio amdano, dysgu sut i strwythuro CV gwych ac ymarfer eich sgiliau cyfweliad.