Sgiliau Swyddfa

Hyder gyda Chyflwyniadau

A oes rhaid i chi roi cyflwyniadau yn y gwaith neu i’ch clwb neu gymdeithas leol? Oes angen mwy o hyder arnoch chi? Ydych chi â diffyg hyder? Rydym yn cynnal gweithdy 2 ddiwrnod lle byddwch yn dysgu sut i gynllunio cyflwyniad, cynhyrchu sleidiau gan ddefnyddio Microsoft PowerPoint a rhoi cyflwyniadau safonol.

Hyder mewn Cyfarfodydd

Ydych chi eisiau ymddangos yn fwy hyderus mewn cyfarfodydd a gallu delio gydag anghytundeb ac ymddygiad heriol? Ymunwch â’n gweithdy undydd i ddysgu a chael awgrymiadau ynglŷn â thechnegau ymarferol i gyfleu eich neges.

Gweinyddiaeth Busnes

Lefel Busnes ‘Admin’ Lefel 1

Mae’r cymhwyster hwn mewn Gweinyddu Busnes ar gyfer pobl sy’n gweithio, neu sydd eisiau gweithio mewn rôl cymorth gweinyddol. Gall cymhwyster mewn Busnes a Gweinyddu eich helpu i chi lwyddo mewn rôl darparu cymorth mewn sefydliad o unrhyw faint neu fath. Mae’r rolau hyn yn cynnwys; Ysgrifenyddesau, Derbynyddion, Gweinyddwyr, Cynorthwywyr Personol, Arweinwyr Tîm/Goruchwylwyr Swyddfa neu Reolwyr.

Lefel Busnes ‘Admin’ Lefel 2

Cynlluniwyd Diploma Lefel 2 mewn Gweinyddu Busnes ar gyfer y rheiny sy’n gweithio yn mewn rôl gweinyddu busnes neu’n gobeithio gwneud hynny neu rhywbeth tebyg, er enghraifft Gweinyddwr, Swyddog Cefnogi Busnes, Cynorthwy-ydd Swyddfa, Derbynnydd. Mae’r hyfforddiant wedi’i gynllunio i’ch dysgu sut i wella perfformiad, cynhyrchiant a sgiliau goruchwylio ac arbed arian i’ch busnes.

Bydd y cymhwyster hwn yn rhoi eich cyfle i chi:

  • Feddu ar y sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen ar gyfer gweithio mewn rôl gweinyddu busnes
  • Datblygu a dangos eich gallu, gan gynnwys datblygu perthynas waith, cyfarthrebu mewn amgylchedd busnes, darparu gwasnaethau gweinyddol effeithiol megis cynorthwyo, cynyrchu a rheoli dogfennau a gwybodaeth, rheoli dyddiaduron a threfniadau teithio yn ogystal â rheoli datblygiad personol a phroffesiynol eich hun

Ysgrifennu Adroddiad

Ydych chi eisiau cynhyrchu adroddiadau o safon uchel? Dysgwch sut i ysgrifennu adroddiadau clir, effeithiol a phroffesiynol yn ein gweithdy undydd.

Cymryd Cofnodion

A ydych yn nerfus am y syniad o gymryd cofnodion? Beth am ymuno â’n cwrs undydd lle byddwch yn cael gwybod am gyfrifoldebau’r cofnodwr, awgrymiadau am ysgrifennu cofnodion cywir a phriodol a beth i’w wneud i baratoi ar gyfer cyfarfodydd a sut i ddilyn i fyny wedyn.

Tystysgrif Ryngwladol Llythrennedd Digidol (ICDL)

Logo International certificate of digital literacy
International certificate of digital literacy

Mae’r Tystysgrif Ryngwladol Llythrennedd Digidol (ICDL) yn gymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol sy’n galluogi chi i ddangos eich cymhwysedd o ran defnyddio rhaglenni cyfrifiaduron personol a chyfrifiaduron cyffredinol. Mae ar gyfer y sawl sy’n dymuno ennill cymhwyster sylfaenol mewn cyfrifiaduro i’w cynorthwyo yn eu gwaith presennol, datblygu eu sgiliau, gwella eu rhagolygon gyrfaol, neu er diddordeb cyffredinol yn unig.

Hanfodion ICDL

  • Diogelwch TG i ddefnyddwyr
  • Hanfodion Defnyddwyr TG
  • Defnyddio e-bost a’r Rhyngrwyd

Ychwanegion ICDL

  • Prosesu Geiriau
  • Taenlenni
  • Cyflwyniadau
  • Gwella Cynhyrchiant trwy defnyddio TG

Uwch ICDL

Mae Uwch ICDL yn adeiladu ar eich sgiliau a ddatblygwyd yn Ychwanegion ICDL ac yn eich galluogi i arddangos eich sgiliau cyfrifiadurol ar y lefel uchaf. Gallwch ddangos i gyflogwr eich bod yn hyderus, yn gymwys ac yn effeithiol mewn amrediad eang o gymwysterau. Y pynciau yr ymdrinnir â hwy yw: Prosesu Geiriau, Taenlenni, Cronfa Data a Chyflwyniadau.

Microsoft Office

Word

Cyflwyniad

Dyma gwrs perffaith i’r sawl sy’n ddechreuwr llwyr neu i’r defnyddiwr sylfaenol sydd am ddysgu nodweddion diweddaraf Microsoft Word, creu llythyrau a dogfennau proffesiynol grymus, a meithrin hyder yn gyflym ac yn hwylus drwy ddefnyddio’r fersiwn o Word.

Pynciau a drafodir yn cynnwys: archwilio Word, creu a golygu dogfennau, fformatio testun a pharagraff, addasu paragraff, offer, bwledi a rhifo a phrintio.

Canolog

Dewch i’r cwrs i ehangu eich gwybodaeth o Microsoft Word. Mae’r cwrs yn addas i’r sawl sy’n deall sut i greu llythyrau a dogfennau sydd wedi’u fformatio’n syml. Byddwch yn dysgu sut i greu a rheoli mathau gwahanol o arddulliau syml, templedi, rhifo tudalennau a chyfuno post.

Pynciau a drafodir yn cynnwys: pennawd a throedyn, rheoli llif y testun, colofnau, gweithio gyda thablau, defnyddio graffigau, addasu lluniau, creu a defnyddio arddull a chyfuno post.

Uwch

Amcan y cwrs yw galluogi i’r defnyddiwr mwy profiadol ddatblygu ei sgiliau Word yn llawn. Gan ddefnyddio nodweddion uwch i rheoli dogfennau mawr ac awtomeiddio byd Word, byddwch yn fuan yn gallu creu dogfennau cymhleth sydd â phenawdau a throedynnau, amlinellu, rhifo a rhestrau o fathau o arddull.

Pynciau a drafodir yn cynnwys: tabl cynnwys, sylwadau, capsiynau, marc llyfr, nodyn terfyn, troedynnau, croes gyfeirio, mynegai, defnyddio tracio newidiadau, creu ffurflenni, is-ddogfennau a macros.

Postgyfuno

Wedi blino ar deipio allan cyfeiriadau? Oes angen cylchlythyru arnoch? Oes gennych lythyr sydd angen ei ddanfon at nifer o gyfeiriadau? Angen cynhyrchu labeli cyfeiriad? Dewch draw i ddysgu sut i greu dogfennau postgyfuno o restrau newydd a/neu rhai sy’n bodoli’n barod.

Excel (Taenlennu)

Cyflwyniad

Amcan y cwrs hwn yw cyflwyno a bwrw golwg gyffredinol ar nodweddion sylfaenol Excel. Ar ôl cwblhau’r cwrs byddwch yn deall sut i greu taenlenni, gwneud cyfrifiadau sylfaenol, ymdrin â rhestrau syml o ddata a siartiau a gallu printio a fformatio rhannau o’r daenlen.

Pynciau a drafodir yn cynnwys: archwilio Excel, taenlenni sylfaenol, creu ac addasu gweithlen, ymdrin â data, didoli data, fformiwlâu sylfaenol, copïo ac ymestyn fformiwlâu, fformatio gweithlen, printio gweithlen a chreu siartiau.

Canolog

Mae’n addas i’r sawl sy’n deall sut i ddefnyddio Excel i wneud taenlenni syml gyda chyfrifo sylfaenol ac sy’n dymuno gallu defnyddio rhai o’r nodweddion uwch. Y bwriad yw gwella eich sgiliau a’ch hyder gyda’r pecyn. Ar ôl cwblhau’r cwrs byddwch yn deall fformatio uwch; yn gallu chwilio data gan ddefnyddio chwiliadau ar sail meini prawf; yn gallu dadansoddi a chrynhoi data ac yn gallu addasu siartiau.

Pynciau a drafodir yn cynnwys: printio uwch, cyfeiriad cellau absoliwt, cysylltu, cuddio gweithlyfr a gweithlen, didoli a hidlo, fformatio amodol, diogelu gweithlen, defnyddio ffwythiannau rhesymegol, defnyddio ffwythiant IF, ffwythiant nythol IF a defnyddio hyper-gysylltiadau.

Uwch

Amcan y cwrs hyfforddi hwn yw rhoi i ddefnyddiwr profiadol Excel gwybodaeth o’r swyddogaethau uwch a sut i’w defnyddio i ddatrys eich problemau busnes eich hunan. Bydd y cwrs yn rhoi cyfle ichi archwilio templedi, tablau pifod, siartiau uwch, rheolwr senario ac offer dadansoddi.

Pynciau a drafodir yn cynnwys: templedi, chwilio, tablau pifod, defnyddio is gyfanswm, creu senarios, tablau data, archwilio macros.

Powerpoint (Cyflwyniadau)

Cyflwyniad

Mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio i roi cyflwyniad a throsolwg o nodweddion sylfaenol PowerPoint. Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn byddwch yn deall sut i greu cyflwyniad sylfaenol.

Pynciau a drafodir yn cynnwys: Dechrau a gorffen sesiwn PowerPoint, golygu cyflwyniad, creu gwahanol fathau o sleidiau, defnyddio’r tab amlinellol, ychwanegu ClipArt i sleid, fformadu sleidiau a defnyddio templedi, defnyddio y didolwr sleid i ad-drefnu cyflwyniad, argraffu cydrannau amrywiol o gyflwyniad a rhedeg sioe sleidiau.

Canolradd

Mae ein cwrs canolradd yn adeiladu ar y cwrs blaenorol. Mae’r cwrs hwn ar gyfer defnyddwyr cymwys sy’n dymuno dysgu mwy am PowerPoint. Erbyn diwedd y cwrs, bydd gennych gwell ddealltwriaeth o’r pwyntiau manylaf a nodweddion PowerPoint, er mwyn creu cyflwyniadau proffesiynol.

Pynciau a drafodir yn cynnwys: mewnosod a fformadu tablau, mewnosod a diweddaru taflenni gwaith Excel, golygu lluniau, mewnosod & addasu diagramau, fformadu siartiau, trefnu graffeg, ychwanegu testun WordArt, mewnosod symbolau a hafaliadau, mewnosod toriadau sgrin, creu hyper-gysylltiadau, atodi camau gweithredu i destun neu gwrthrychau, gosod ac addasu animeiddiadau, mewnosod a chwarae synau a fideos.

Uwch

Mae’r cwrs hyfforddi yma yn rhoi trosolwg o nodweddion mwy datblygedig a swyddogaethau Microsoft PowerPoint. Mae’r cwrs hwn wedi’i anelu at y rhai sy’n dymuno addasu neu adnewid eu cyflwyniadau gyda elfennau amlgyfrwng, gwrthrychau gweithredu ac animeiddio.

Pynciau a drafodir yn cynnwys: cydweithio gyda phobl eraill, cadw cyflwyniadau mewn fformatau eraill, danfon cyflwyniadau o PowerPoint, diogelu cyflwyniadau, ychwanegu ac adolygu sylwadau, cyfuno fersiynau cyflwyniad, creu lliwiau thema a ffontiau, gweld a newid sleidiau meistri, creu cynlluniau sleidiau, cadw templedi dylunio, addasu cyflwyniadau ar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd, achub cyflwyniadau fel fideos.

Outlook (ebost)

Cyflwyniad

Bydd y cwrs undydd hwn yn adeiladu eich hyder i ddefnyddio Outlook yn effeithiol. Mae’r cwrs hwn yn ymdrin â defnydd effeithlon o e-bost, anfon/derbyn, ateb, ateb pawb, danfon ymlaen, atodiadau, creu llofnod, rheoli cysylltiadau.

Uwch

Nod y cwrs hwn yw edrych ar y nodweddion mwy datblygedig o Microsoft Outlook bydd yn eich helpu i rheoli gwybodaeth yn hawdd. Mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio ar gyfer defnyddwyr cymwys o Outlook a fyddai’n hoffi mwy o’r rhaglen. Dysgwch sut i greu rheolau, atebion allan o’r swyddfa, rheoli calendrau, rheoli tasgau a chreu nodiadau.

Access (Cronfeydd Ddata)

Cyflwyniad

Mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio i roi cyflwyniad a throsolwg o nodweddion sylfaenol Access. Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn bydd gennych ddealltwriaeth sut i greu cronfa ddata sylfaenol. Mae’n archwilio strwythur y gronfa ddata berthynol Access ac yn dangos cystrawen a’r defnydd o’r holl elfennau hanfodol: tablau, ffurflenni, ymholiadau ac adroddiadau.

Pynciau a drafodir yn cynnwys: dylunio a poblogi cronfa ddata, creu tabl, ychwanegu, addasu a dileu cofnodion, gweithio gyda data, creu a defnyddio ymholiadau sylfaenol, creu ffurflenni sylfaenol, creu adroddiadau sylfaenol.

Canolradd

Mae ein cwrs canolradd yn adeiladu ar y cwrs blaenorol. Mae’r cwrs hwn wedi ar gyfer defnyddwyr cymwys sy’n dymuno dysgu mwy am Access. Erbyn diwedd y cwrs, bydd defnyddwyr yn gallu dylunio, gweithredu a chynnal cronfeydd data, a gwella ymarferoldeb cronfa ddata trwy berthnasoedd ac ymholiadau uwch.

Pynciau a drafodir yn cynnwys: allwedd gynradd, mynegeion, masgiau mewnbwn, dilysu, perthnasoedd, ymholiadau pellach, ymholiad uwch gan defnyddio’r dewin, ffurflenni adeiladu ac adroddiadau pellach.

Sylwer: Gellir cyflwyno cyrsiau yn Gymraeg, yn Saesneg neu’n ddwyieithog, rhowch wybod i ni beth yw eich dewis iaith