Wythnos Addysg Oedolion 2018

Poster Wythnos Addysg Oedolion 2018
Cymwerwch ran / Get involved
Caru Dysgu logo

Wythnos Addysg Oedolion yw’r ŵyl ddysgu flynyddol fwyaf yn y DU. Bob blwyddyn, gwelwn dros 10,000 o oedolion yng Nghymru sy’n cymryd rhan mewn gweithgareddau Wythnos Addysg Oedolion. Nod yr ymgyrch hon yw codi ymwybyddiaeth o werth addysg i oedolion, dathlu cyflawniadau dysgwyr a darparwyr, ac ysbrydoli mwy o bobl i ddarganfod sut y gall dysgu newid eu bywydau yn gadarnhaol. Cyflawnir hyn trwy weithio gyda llu o ddarparwyr lleol sy’n darparu sesiynau blasu am ddim i annog oedolion i ddychwelyd i ddysgu.

Eleni cynhelir ein digwyddiadau Dysgwyr Oedolion o 10yb i 4yp ar 6ed o Fehefin yn Y Man a’r Lle ar gampws Coleg Ceredigion, Aberteifi ac yn y Bandstand Aberystwyth ar 20fed o Fehefin.

Bydd yna stondinau gwybodaeth o wahanol sefydliadau addysgol, darparwyr hyfforddiant, prosiectau a grwpiau lleol i roi cyngor ichi am y gwahanol gyfleoedd dysgu sydd ar gael yng Ngheredigion.

Bydd Dysgu Bro, Hyfforddiant Ceredigion, Coleg Ceredigion, Dysgu Gydol Oes a Chymraeg i Oedolion Prifysgol Aberystwyth, Addysg Oedolion Cymru a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn darparu sesiynau blasu. Hoffech chi ddysgu rhywbeth newydd neu roi cynnig ar rywbeth gwahanol? Dewch i roi cynnig a rhai o’r gweithgareddau mewn pynciau megis Cymorth Cyntaf, Iaith Arwyddion Prydain, Gwaith Saer, Plymio, Gwaith Gof, Gwallt a Harddwch, Iaith a Diwylliant Tsieineaidd, Sesiwn blasu Cymraeg, tecstilau, ffotograffiaeth ddigidol, fideo gan ddefnyddio iPad, apiau iechyd a lles, posau a gemau, paentio wynebau a llawer mwy.

Gall dysgu trwy gydol eich oes eich helpu i ennill sgil newydd, teimlo’n fwy hyderus, dod o hyd i hobi newydd, cwrdd â phobl newydd, ennill cymhwyster, gwella eich gyrfa, dod o hyd i swydd newydd neu i gael ychydig o hwyl.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Dysgu Bro Ceredigion ar 01970 633540 neu drwy e-bost admin@dysgubro.org.uk

Logo Wythnons Addysg Oedolion
Logo Wythnons Addysg Oedolion