Newyddion

Holiadur Neuadd Rhydypennau 2023

Rydym angen eich cefnogaeth! Yn dilyn gwelliannau sylweddol sydd wedi eu gwneud yn Neuadd Rhydypennau mae’r pwyllgor nawr yn gwneud ceisiadau am grantiau i wneud gwelliannau pellach.

A fyddech yn medru ein cefnogi?

Isod gweler PDF yn rhoi ychydig o fanylion o’r gwelliannau pellach. Mae hefyd linc i lenwi holiadur byr. Dylech allu ei lenwi mewn rhyw funud neu ddau.

Gwelliannau Arfaethedig Neuadd Rhydypennau

Holiadur Neuadd Rhydypennau

Cefnogaeth i deuluoedd o Syria gyda’u Cwrs Theori Ceir

Mae dau deulu o Syria sy’n byw yn Llanbedr Pont Steffan wedi bod yn gweithio’n galed tuag at eu profion theori car y DU.

Bu teuluoedd Rasoul a Jarallah yn astudio ar-lein gyda John Hughes, tiwtor o Dysgu Bro Ceredigion. Defnyddiodd John gemau a chwisiau er mwyn gwneud y broses o astudio elfennau megis arwyddion ffordd a phellteroedd stopio yn ddiddorol, ac roedd y teuluoedd wedi mwynhau’r cwrs yn fawr iawn.

Mae pasio’r prawf theori yn anodd i nifer o siaradwyr Saesneg, felly i’r teuluoedd o Syria, roedd pasio’r prawf mewn iaith dramor yn dipyn o her, yn ogystal â dysgu ar-lein oherwydd cyfyngiadau Covid.

Dywedodd Diyar Rasoul, “Y rhwystr mwyaf yr oeddwn yn ei wynebu wrth geisio sicrhau fy nhrwydded lawn oedd y ffaith bod yn rhaid i mi sefyll y prawf theori yn Saesneg – pan gyrhaeddais y DU, nid oeddwn yn gallu siarad nac ysgrifennu Saesneg o gwbl. Bydd trwydded yrru yn fy helpu i sicrhau gwaith yn haws gan fy mod yn byw mewn ardal wledig lle y mae’r gwasanaeth bws yn gyfyngedig.”

Mae eu gwaith caled a’u hymroddiad wedi talu ar ei ganfed, ac mae nifer o’r dysgwyr eisoes wedi pasio’r prawf, yn ogystal â’r prif brawf gyrru.

Dywedodd y tiwtor John, “Mae wedi bod yn brofiad gwerth chweil iawn bod yn diwtor a chyflwyno’r dosbarthiadau a’u gweld yn pasio’r prawf theori ac yna eu gweld yn gyrru o gwmpas y dref. Mae’n peri i mi deimlo’n falch iawn o’r hyn y maent wedi’i gyflawni mewn cyfnod mor fyr.”

Dywedodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion sydd â chyfrifoldeb am Ailsefydlu Ffoaduriaid, “Mae’n galonogol gweld y teuluoedd o Syria yng Ngheredigion yn setlo ond hefyd yn gweithio’n galed i ddatblygu eu hunain. Mae gwneud y cwrs hwn wedi help datblygu’r teulu Rasouls a sgiliau a rhagolygon y teulu Jarallahs. Rwy’n annog pawb i weithredu ar neges Diyar – dysgwch rywbeth newydd yn eich amser rhydd. Da iawn. أحسنت.”

Am yr holl waith caled, mae HCT Ceredigion wedi rhoi stand bachyn côt sy’n cynnwys y ddraig Gymreig, a wnaed â llaw, i’r ddau deulu.

Da iawn. أحسنت


E-ddysgu i ddatblygu eich sgiliau masnach

Dyn yn defnyddio laptop

Mae busnesau bwyd a diod bach o dan fwy o bwysau nag erioed o’r blaen. Mae cwsmeriaid sy’n gofyn llawer, a marchnadoedd cystadleuol yn golygu bod mireinio eich sgiliau cwsmer yn hanfodol. Mae Sgiliau Bwyd Cymru wedi gweithio gyda Levercliff i ddarparu ateb e-ddysgu syml i’ch helpu i feithrin eich sgiliau.

Gallwch ddewis faint o gymorth sydd ei angen arnoch, o fynediad syml i ddeunyddiau dysgu ar-lein, i gymorth 1:1 gan ymgynghorydd, a hyd yn oed asesiad ac achrediad llawn ar Lefel 4. Mae’r cyrsiau ar-lein yn cynnwys: Rheoli Categorïau, Rheoli Cwsmeriaid, GSCOP, Creu cyflwyniad gwerthu, Sgiliau Negodi a Rheoli Hyrwyddiadau.

Am fwy o wybodaeth am e-ddysgu ewch i tudalen E-ddysgu i adeiladu sgiliau’r diwydiant ar wefan Sgiliau Bwyd Cymru.


Canlyniadau gwych i’n rhaglen hyfforddi

Ers mis Ebrill 2019 rydym wedi bod yn gweithio gyda busnesau prosesu a gweithgynhyrchu bwyd a diod o bob maint ac o bob rhan o Gymru i’w helpu i adnabod meysydd hyfforddiant priodol i’w staff allai helpu eu busnesau i ddatblygu a ffynnu. Cymerwch gip ar yr ystadegau isod a chysylltwch os ydych chi’n meddwl y gallwn ni eich helpu chi:

Ystadegau gweithgaredd Sgiliau Bwyd Cymru rhwng Ebrill 2019 a Ionawr 2021

Am fwy o wybodaeth ewch i tudalen Canlyniadau gwych i’n rhaglen hyfforddi ar wefan Sgiliau Bwyd Cymru.


Diogelu Cymru y Gaeaf hwn

Mae angen help pawb i atal lledaeniad y Coronafeirws yng Nghymru.

Poster Diogelu Cymru y Gaeaf hwn


Effaith Covid-19 ar ddysgwyr

Mae pandemig y coronafeirws (Covid-19) wedi effeithio ar fywydau pob un ohonom. Mae ymchwilwyr Llywodraeth Cymru am ddeall mwy am effaith y pandemig ar ddysgwyr yng Nghymru. Mae’r arolwg wedi’i anelu at y rhai sydd ar hyn o bryd yn ddysgwyr 16 oed neu’n hŷn, sy’n astudio yn y chweched dosbarth mewn ysgolion, addysg bellach, addysg seiliedig ar waith neu ddysgu oedolion mewn coleg neu’r gymuned.

I gwblhau’r arolwg cliciwch ar y arolwg SmartSurvey.

Mae’r arolwg yn gofyn cwestiynau am eich ffyrdd o ddysgu yn ystod y pandemig, eich diogelwch a’ch lles ynghyd â’ch dewisiadau dysgu. Rydyn ni am glywed sut y mae’r cyfyngiadau ers diwedd mis Mawrth 2020 wedi effeithio ar eich addysg a sut mae pethau’n mynd nawr.

Dylai’r arolwg gymryd tua 15 munud i’w gwblhau. Mae’r rhan fwyaf o’r cwestiynau yn gofyn am eich barn am ddatganiadau, ond mae lle i roi sylwadau ar y diwedd. Byddwn yn defnyddio’ch ymatebion i helpu Llywodraeth Cymru i wneud penderfyniadau am addysg.

I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost at Ymchwil Cyflogadwyedd a Sgiliau. Diolch ymlaen llaw am eich cymorth.


Y Teulu Smith – Gwobr Dysgu fel Teulu

Enwebwyd gan: Dysgu Bro Ceredigion

Y Teulu Smith - Gwobr Dysgu fel Teulu

Penderfynodd dwy genhedlaeth o’r teulu Smith ddysgu Iaith Arwyddion Prydeinig (BSL) i’w helpu i gyfathrebu gyda Krsna, pan aeth yn hollol fyddar fel babi.

Mae’r teulu, ei fam-gu, Alex Smith, ei ewythr Josey Smith a’i fodrybedd Laura Smith a Naomi Smith-Lloyd, wedi cwblhau iBSL Lefel 1 a Lefel 2 ac maen nhw’n bwriadu symud ymlaen i Lefel 3. Diolch i’w hymroddiad i ddysgu BSL a dysgu mwy am ddiwylliant pobl fyddar, mae Krsna, sydd nawr yn naw oed, yn rhan gyflawn o bob agwedd ar fywyd y teulu.

Meddai Alex: “Roedden ni eisiau dechrau dysgu BSL fel teulu fel y byddai gan Krsna iaith lawn i gyfathrebu ynddi. Rydyn ni’n cymryd popeth yn ganiataol, ond heb iaith lawn mae’n llawer anoddach i ni fynegi emosiynau a datblygu perthynas gydag eraill.”

Roedd rhieni Krsna eisiau iddo gael ei drochi yn niwylliant pobl fyddar o oed cynnar. Dechreuon nhw ddysgu BSL pan oedd e’n fabi ac fe lwyddon nhw i drefnu iddo dreulio amser gyda phobl fyddar eraill yn eitha’ cyflym. “Does dim modd i unrhyw blentyn ddod yn rhugl mewn iaith oni bai ei fod yn gallu cael profiad o’r iaith honno’n cael ei defnyddio’n rhugl o’i gwmpas. Roedd yn bwysig iawn i ni allu cyfathrebu’n llawn gydag e, ei gynnwys mewn sgyrsiau teuluol a’i helpu gyda BSL.”

Fe wnaethant ddysgu BSL eu hunain gartref gan ddefnyddio llyfrau ac adnoddau ar-lein. Pan gafodd dosbarthiadau lefel mynediad wedi eu sybsideiddio eu sefydlu yn lleol, fel rhan o’r rhaglen Dysgu Bro, wnaethon nhw ddim oedi cyn cofrestru. Aeth y fam-gu, Alex, yn ei blaen: “Gall dysgu BSL fod yn ddrud iawn felly rydyn ni’n teimlo’n hynod ddiolchgar am y cyfle hwn. Pe bai mwy o gyllid ar gael, byddai mwy o deuluoedd yn gallu cefnogi aelodau o’r teulu sy’n fyddar drwy ddysgu BSL.

Ers cwblhau’r cwrs, mae Josey, sy’n ewythr i Krsna, wedi defnyddio ei sgiliau BSL i wirfoddoli. Meddai: “Ar y dechrau, roeddwn i’n nerfus am ddechrau’r cwrs, ond mae fy hyder wedi gwella’n aruthrol ac erbyn hyn dwi’n benderfynol o barhau a chwblhau’r cymhwyster Lefel 3. ynddi na Saesneg llafar.”

Mae modrybedd Krsna, Naomi a Laura, wedi gweithio’n galed er mwyn cynnwys pobl fyddar mewn gwyliau maen nhw’n eu trefnu. Dywedodd y ddwy: “Mae pobl fyddar dan anfantais fawr yn y gymuned o bobl sy’n clywed. Rydyn ni’n credu y dylai pawb ddysgu BSL; mae dysgu iaith fel oedolyn yn her ond byddwn yn ei argymell i unrhyw un.

Dywedodd Alex, oedd yn gweithio fel tiwtor, “Mae unrhyw fath o ddysgu yn eich ehangu ac yn helpu i’ch gwneud yn berson mwy cyflawn. Dwi’n deall y pwysau sy’n dod o orfod dysgu a gwneud asesiadau o amgylch bywyd teuluol yn llawer gwell nawr nag oeddwn i o’r blaen. Rydyn ni wedi dod yn ffrindiau da gyda’r bobl eraill oedd yn dysgu gyda ni, ond yn bwysicaf oll rydyn ni’n gallu cyfathrebu â Krsna.”


Ysbrydoli! Sefydliad Dysgu a Gwaith – Gwobrau Tiwtor 2019

Cafodd Alison Bryan ac Alison Newby o Ddysgu Bro eu henwebu am Ysbrydoli! Sefydliad Dysgu a Gwaith – Gwobrau Tiwtor 2019 yn ddiweddar. Cafodd y ddwy wobr am ddod yn ail. Llongyfarchiadau i’r ddwy Alison ar eu llwyddiant.

Mae’r Sefydliad Dysgu a Gwaith Gwobrau Tiwtor 2019, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, yn dathlu cyflawniadau tiwtoriaid a mentoriaid eithriadol yng Nghymru. Y tiwtoriaid ar fentoriaid hynni sydd wedi dangos angerdd ac ymroddiad eithriadol i annog, cefnogi ac addysgu dysgwyr oedolion eraill i ddilyn eu nodau a thrawsnewid eu bywydau yn eu cymuned neu yn y gweithle.

Y tu ôl i bob dysgwr oedolyn mae mentor neu diwtor ysbrydoledig ac mae’r enwebiadau yn adlewyrchu’r oedolion ar waith ym mhob rhan o’n bywydau. Yn aml, mae dysgu i oedolion yn lle i bobl troi mewn ymateb i argyfwng bywyd, a yrrir weithiau gan ddymuniad i fod yn well rhiant, efallai y bydd angen iddynt feithrin sgiliau i gael gwaith neu newid gyrfa. Mae pob un o enillwyr y gwobrau wedi dangos y gallu i ysbrydoli hyder a chariad at ddysgu.

Isod mae Alison Bryan efo’r cyflwynydd y noson, Nia Parry sef cyflwynydd S4C a Jeff Greenidge, Cadeirydd Sefydliad Dysgu a Gwaith.

14/02/2019


Diwrnod ym Mywyd John Hughes – Tiwtor, Dysgu Bro Ceredigion

Astudiais Ffotograffiaeth, Graffeg a Fideo yng Ngholeg Iâl yn Wrecsam cyn symud ymlaen i gwblhau gradd mewn Graffeg Electronig ym Mhrifysgol Swydd Stafford, a chwrs TAR yn dilyn hynny.

John Hughes yn dysgu dosbarth

Bûm yn addysgu am gyfnod yng Ngholeg Iâl cyn penderfynu mynd i deithio. Un lle yn arbennig yr oeddwn am ymweld ag ef oedd Rwsia, a bûm yn gweithio ac yn byw yno am dros bum mlynedd.

Ers 2011, rwyf wedi bod yn diwtor gyda Dysgu Bro Ceredigion. Dysgu Bro Ceredigion yw darparwyr Addysg Gymunedol Cyngor Sir Ceredigion. Eu nod yw darparu cyfleoedd dysgu er mwyn i bobl o gymunedau ledled Ceredigion ddatblygu diddordebau newydd, gweithio tuag at gymhwyster neu wella’u sgiliau ar gyfer y gweithle.

Rydym yn darparu cyrsiau mewn lleoliadau cymunedol, yn y gweithle neu yn un o’n lleoliadau; Aberaeron, Canolfan Rheidol, HCT Llanbadarn, Canolfan Dysgu Bro Llandysul neu yng Nghanolfan Dysgu Bro Aberteifi.

Rwy’n dysgu ystod o sgiliau digidol, gan gynnwys Dylunio Gwefan, defnyddio Adobe Photoshop, y Cyfryngau Cymdeithasol a Microsoft Office (Word, Excel etc).

Cynhelir y rhan fwyaf o’m dosbarthiadau yng Nghanolfan Rheidol yn ystod y dydd ac yng Nghanolfan HCT Llanbadarn gyda’r hwyr. Rwy’n mwynhau darparu ystod o bynciau, er hynny, y cyrsiau creadigol yr wyf yn eu mwynhau fwyaf, er enghraifft Teipograffeg neu Ffotograffiaeth Ddigidol. Rwy’n addysgu dysgwyr o bob oedran a chefndir, o 14 i 95 mlwydd oed!

Rwyf hefyd yn addysgu mewn cymunedau lleol, gan gynnwys yn Theatr Felinfach ac yng Nghaffi cymunedol Cletwr yn Nhre’r-ddôl.
Rwyf hefyd yn addysgu staff y Cyngor yn ogystal â darparu ar gyfer busnesau megis y Groes Goch, Undeb Amaethwyr Cymru ac Arad Goch. Felly, os ydych yn awyddus i hyfforddi eich staff mewn lleoliad lleol ac am bris rhesymol, ystyriwch Dysgu Bro Ceredigion.

Mae gen i un grŵp gwych sydd wedi bod yn cwrdd bob bore dydd Mawrth ers saith mlynedd bellach. Maent yn dangos brwdfrydedd parhaus o ran eisiau datblygu eu sgiliau digidol.

Yn Dysgu Bro, rydym yn darparu nifer o gyrsiau a chymwysterau mewn ystod o bynciau megis Trwydded Yrru Gyfrifiadurol Ewropeaidd (ECDL), Cymorth Cyntaf, defnyddio iPad a Chyflwyniad i Wyddor Fforensig Safleoedd Troseddau! Cynhelir cyrsiau yn ystod y dydd a gyda’r hwyr. Ym mis Ionawr, dechreuwyd cyrsiau newydd gan gynnwys Ioga, Printio Sgrin a Phaentio Gwydr. Felly, os ydych yn awyddus i ddysgu rhywbeth newydd yn 2019, cysylltwch â Dysgu Bro Ceredigion.

Neu beth am alw heibio i’n noson agored ar 6 Mawrth yng Nghanolfan HCT Llanbadarn rhwng 3pm a 7pm i ddysgu mwy am yr hyn yr ydym yn ei gynnig. Byddwn yn cynnig ystod o gyrsiau byr gyda’r hwyr ar yr wythnos sy’n dechrau 11 Mawrth, felly bydd hwn yn amser delfrydol i ddod i gael gwybod mwy.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch ag admin@dysgubro.org.uk, 01970 633540 neu ymwelwch â’r wefan www.dysgubro.org.uk

14/02/2019


Dathlu dysgu gydol oes yng Ngheredigion gyda Gwobrau Ysbrydoli! Ceredigion

Ar ddiwedd Wythnos Addysg Oedolion, cynhaliodd Partneriaeth Dysgu Oedolion Ceredigion eu Gwobrau Ysbrydoli lle cyflwynwyd wyth gwobr. Cydnabuwyd cyflawniadau yr oedolion sy’n dysgu, o bob rhan o Geredigion, sydd wedi goresgyn heriau a rhwystrau.

Enillwyr gwobrau Ysbrydoli Ceredigion! gyda chynrychiolwyr o Bartneriaeth Dysgu Oedolion Ceredigion, Cyngor Sir Ceredigion, yr Aelod Cynulliad a’r Aelod Seneddol

Cafodd Haf Shannon Burrill, Max Jenkins, Morgan Owen, Jennifer Lewis, Siani McDowell, Jessica Harvey, Najlaa Jamal, Bashar Mardenli, Latifa Al Najarr, Rakan Al Najarr ac Ahmad Sultan wobrau dysgu arbennig fel rhan o seremoni wobrwyo fawreddog a gynhaliwyd ar 22ain Mehefin 2018 yn Neuadd y Celfyddydau, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan.

Yn ogystal â gwobrau’r dysgwr, gwobrwywyd Alison Bryan o Dysgu Bro gyda Gwobr Tiwtor y Flwyddyn.

Dywedodd y Cynghorydd Catherine Hughes, Aelod Cabinet gyda chyfrifoldeb dros Ddysgu Cymunedol, “Mae Gwobrau Ysbrydoli! Ceredigion yn dathlu cyflawniadau dysgwyr oedolion eithriadol yng Ngheredigion sydd wedi dangos angerdd, ymrwymiad a chymhelliant eithriadol i ddysgu, yn aml mewn amgylchiadau anodd. Rydym yn falch iawn ohonynt oll ac yn edrych ymlaen at glywed am eu datblygiadau yn y dyfodol.”

Trefnir Wythnos Addysg Oedolion gan Sefydliad Dysgu a Gwaith gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, ac mae’n rhedeg rhwng 25ain Mehefin a 1af Gorffennaf. Mae’n dathlu dysgu gydol oes, boed yn seiliedig ar waith, fel rhan o gwrs addysg gymunedol, yn y coleg, prifysgol neu ar-lein. Nawr wedi iddo gyrraedd 25 mlynedd, mae’r Wythnos yn anelu at hyrwyddo’r ystod o gyrsiau sydd ar gael i oedolion sy’n dysgu, o ieithoedd i gyfrifiaduron a gofal plant i gyllido.

Dywedodd Elen James, Swyddog Arweiniol Corfforaethol Dysgu Gydol Oes a Diwylliant, “Roedd hi’n bleser mynychu noson Gwobrau Ysbrydoli Dysgwyr Ceredigion yn Llambed a gweld yr oedolion hyn yn derbyn gwahanol wobrau ac achrediadau. Mae darpariaeth Partneriaeth Dysgu Oedolion yn hynod werthfawr i oedolion yng Ngheredigion gan ei bod yn cynnig ystod eang o gyfleoedd a hyfforddiant i ddinasyddion y sir. Mae nifer y cyflawniadau eleni yn adlewyrchiad o ymrwymiad a brwdfrydedd ein dysgwyr ac roedd yn bleser croesawu cymaint ohonynt a’u teuluoedd i ddathlu gyda ni eleni. Llongyfarchiadau i chi gyd!”

Yr enillwyr oedd:

  • Haf Shannon Burrill – Gwobr Oedolion Ifanc. Mae Haf wedi dangos ymrwymiad i’w dysgu ac yn ei blwyddyn olaf o’i phrentisiaeth Plymio Lefel 2 yn Hyfforddiant Ceredigion
  • Najlaa Jamal, Bashar Mardenli, Latifa Al Najarr, Rakan Al Najarr, Ahmad Sultan – Gorffennol Gwahanol: Gwobr Rhannu’r Dyfodol. Mae’r grŵp hwn o ddysgwyr wedi dangos dilyniant mawr wrth ddatblygu eu medrau llythrennedd digidol a sgiliau iaith
  • Max Jenkins – Heneiddio’n Dda. Mae Max wedi bod yn mynychu dosbarthiadau cyfrifiadurol yn Dysgu Bro Ceredigion ers nifer o flynyddoedd ac mae ganddo ddiddordeb bob amser i ddysgu mwy
  • Jennifer Lewis – Gwobr Newid Bywyd a Dilyniant. Yn ystod ei hamser yn dysgu Iaith Arwyddo Brydeinig gyda Dysgu Bro Ceredigion, roedd ganddi hefyd gyfrifoldebau gofalu. Er bod ganddi apwyntiadau ysbyty ac ymrwymiadau gofalu adref, fe wnaeth ymrwymo hefyd i ddysgu. Dywedodd bod gwneud hyn wedi ei helpu ac roedd hi’n cydnabod gwerth a budd dysgu ar ei gyfer ei hun
  • Siani McDowell – Gwobr Iechyd a Lles. Mae Siani wedi gwneud pob ymdrech i gael mynediad at yr holl gefnogaeth sydd ar gael er mwyn sicrhau llwyddiant yng Ngholeg Ceredigion eleni, ac mae wedi talu ar ei ganfed
  • Jessica Harvey – Dysgwr Cymraeg. Mae Jessica wedi bod yn gweithio’n galed iawn i wella ei sgiliau Cymraeg trwy sgwrsio’n fwy trwy gyfrwng y Gymraeg yn ystod gweithgareddau dosbarth yng Ngholeg Ceredigion a tra ei bod ar leoliad. Mae hi hefyd wedi mynd ymlaen i gystadleuaeth Medal y Dysgwyr gyda’r Urdd, gan gyrraedd y 4 ymgeisydd terfynol
  • Morgan Owen – gwobr ‘Mewn Gwaith’. Astudiodd Morgan ar y Rhaglen Ymgysylltu Hyfforddeion yn Hyfforddiant Ceredigion Training ac mae wedi mynd ymlaen i weithio ar leoliad mewn siop chwaraeon Modur lleol
  • Alison Bryan – Tiwtor y flwyddyn. Disgrifiwyd Alison yn ysbrydoledig, yn frwdfrydig, yn gefnogol, yn ofalgar, yn galonogol ac yn hwyl. Mae hi’n defnyddio ystod eang o ddulliau addysgu ymgysylltu a deinamig yn Dysgu Bro Ceredigion i sicrhau bod anghenion dysgu pawb yn cael eu diwallu. Mae’n rhoi cymorth ychwanegol i ddysgwyr y tu allan i’r ystafell ddosbarth yn ei hamser ei hun, gan drefnu cymdeithasau â dysgwyr a defnyddwyr Iaith Arwyddo Brydeinig eraill. Mae hi’n teithio pellteroedd mawr i gyflwyno dosbarthiadau Iaith Arwyddo Brydeinig ar draws sawl Sir. Mae hi’n ymroddedig ac yn angerddol wrth iddi ymdrechu i godi ymwybyddiaeth o’r materion sy’n effeithio ar bobl fyddar

Am rhagor o wybodaeth am Ddysgu Cymunedol, cysylltwch â Dysgu Bro ar 01970 633540 neu admin@dysgubro.org.uk.

17-07-2018


Staff wedi eu hysbrydoli gan gwrs arbennig

Ar ddydd Iau, 15eg Mehefin 2017, cyflwynwyd y Cyngor gyda Gwobr Cyflogwr Mawr am ei ymrwymiad i ddatblygu llythrennedd digidol gweithwyr, ac enwyd fel y cyflogwr gorau mawr yng Nghymru yng Ngwobrau Ysbrydoli! eleni.

Mae Dysgu Bro Ceredigion, Darparwr Dysgu i Oedolion yn y Gymuned Cyngor Sir Ceredigion, wedi gweithio’n agos gyda DigiSkills Cymru yr Undeb Llafur Unsain, Prosiect Cronfa Dysgu Undeb, er mwyn galluogi dros 100 o aelodau o staff i ddatblygu eu sgiliau digidol sylfaenol, yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Dywedodd Denise Owen, Rheolwr Addysg Gymunedol yn Dysgu Bro, “Credaf taw llwyddiant y prosiect oedd cael staff yn rhan o ddylunio’r cwrs o’r dechrau a chael Rheolwyr ynghlwm a oedd yn gweld yr angen i staff fod yn hyddysg mewn cyfrifiadura. Hyd yma, mae 118 o bobl wedi bod ar y cwrs. Bellach, mae’r TUC wedi rhoi marc ansawdd i ni, felly ein cynllun yw hyfforddi mwy o staff y Cyngor ac o bosibl ei gyflwyno i weithleoedd eraill.”

Dywedodd Elen James, Pennaeth Ymgysylltu Ieuenctid ac Addysg Barhaus Cyngor Sir Ceredigion, “Rydym yn falch bod Rheolwyr wedi gallu rhyddhau staff, yn bennaf y rhai sy’n gweithio oddi ar y safle mewn cartrefi gofal ac mewn depos rheoli gwastraff i fynychu cyrsiau yn ystod amser gwaith. Ein rôl oedd darparu cyfleusterau a’r tiwtoriaid i ddarparu’r sesiynau. Cafodd Hyrwyddwyr DigiSkills eu creu ac roeddent yn allweddol o ran cyflwyno’r hyfforddiant. Mae’n enghraifft o sut y gall partneriaethau o fewn y gweithle ddarparu cyfleoedd dysgu i sectorau eraill y gall fod yn anodd eu cyrraedd.”

Wrth weithio gyda’i gilydd, nodwyd anghenion sgiliau digidol cydweithwyr. Cyd-gynlluniwyd ystod o fentrau, a’i nod i feithrin sgiliau a hyder yn y gweithlu. Y canlyniad oedd pum sesiwn o weithdai byr a hyblyg. Cynlluniwyd y sesiynau i fynd i’r afael â sgiliau sy’n angenrheidiol ar gyfer gwaith a bywyd cartref. Roedd un sesiwn yn mynd i’r afael â ffurflenni ar-lein gan helpu staff i ddefnyddio system ar-lein Adnoddau Dynol y Cyngor.

Dywedodd y Cynghorydd Catrin Miles, Aelod Cabinet gyda chyfrifoldeb am Wasanaethau Dysgu, “Roedd yn bleser i fod yn y seremoni wobrwyo i gefnogi staff sydd wedi gweithio’n galed ar ddatblygu llythrennedd digidol.”

Gwobrau Dysgu Oedolion Ysbrydoli! yw canolbwynt Wythnos Addysg Oedolion. Mae’n gyfle i’r sector ddathlu cyflawniadau dysgwyr a sefydliadau.

22-06-2017