Dulliau Talu

Mae gan Dysgu Bro sawl ffordd i chi dalu eich ffioedd cwrs:

Cerdyn Credyd neu Ddebyd

Gallwch dalu am eich cwrs gydag unrhyw un o’r mathau canlynol o gardiau credyd/debyd (Visa, Mastercard, Switch, Solo a Visa Delta). Ar ôl i chi gael y swm sy’n daladwy cysylltwch â CLIC ar 01545 570881 a dweud eich bod yn talu am gwrs Dysgu Bro.

Ar-lein

Er mwyn talu â cherdyn Debyd neu Gredyd eich hun, gan ddefnyddio’r system talu ar-lein trwy’r rhyngrwyd – RHAID i chi gofrestru ar gwrs yn gyntaf. Ar ôl cofrestru, byddwch yn cael cyfeir-rif a fydd yn gadael ichi dalu ar-lein. Gallwch gyrchu’r system talu ar y tudalen Taliad Ar-lein ar wefan Cyngor Sir Ceredigion.

  1. gwasgu botwm “Taliad ar-lein”
  2. dewis “Taliadau Amrywiol”
  3. dewis Dysgu Bro
  4. dewis “ffioedd Cwrs” o’r gwymplen
  5. rhoi eich enw, cyfeiriad a thâl
  6. yn y bocs Cyfeirnod Talu rhowch y rhif byddwch wedi derbyn ar gadarnhad eich cofrestriad

Os cewch chi unrhyw anhawster i dalu ar-lein, byddwch cystal â ffonio’r staff yn swyddfa Llanbadarn ar 01970 633540 yn ystod oriau swyddfa arferol (o ddydd Llun i ddydd Gwener)

Swyddfa Llanbadarn, Aberystwyth – 01970 633540 yw’r unig ganolfan sydd ar agor trwy’r blwyddyn.