Lleoliad

Gallwn ddarparu’r cyrsiau mewn lleoliadau cymunedol, yn eich gweithle neu yn un o’n lleoliadau.

Canolfan Rheidol (Aberystwyth)

adeilad canolfan rheidol
Adeilad Canolfan Rheidol, Aberystwyth

Mae parcio rhad ac am ddim o flaen yr adeilad, fodd bynnag mae lle yn gyfyng. Mae’r adeilad ar y llwybrau bysiau cyhoeddus.

HCT Llanbadarn (Aberystwyth)

Canolfan Dysgu Bro HCT Llanbadarn
Canolfan Dysgu Bro HCT Llanbadarn

Mae parcio rhad ac am ddim o flaen yr adeilad, fodd bynnag mae lle yn gyfyng. Mae’r adeilad ar y llwybrau bysiau cyhoeddus.

Llandysul

Canolfan Dysgu Bro Llandysul
Canolfan Dysgu Bro Llandysul

Lleolir ein canolfan i fyny’r grisiau yng Nghanolfan Ceredigion uwchben y llyfrgell. Teithiwch ar yr A475 o Lambed, A486 o Gei Newydd, a’r A484 o Gastell Newydd Emlyn. Codir tâl rhesymol am barcio ym maes parcio’r Cyngor Sir yn union gyferbyn.

Aberteifi

Canolfan Dysgu Bro Aberteifi
Canolfan Dysgu Bro Aberteifi

Lleolir ein canolfan hyfforddi ar lawr gwaelod y Clwb Ieuenctid, 2-3 Pont Cleifion, Aberteifi, SA43 1DW. Digon o le i barcio ar gael yn maes parcio y pwll nofio – codir tâl rhesymol.