iPad
iPad
Gennych chi iPad neu dabled neu’n ystyried prynu un? Bydd y cwrs yma yn eich dysgu sut i gael y gorau allan o’ch iPad neu dabled. Mae’r cwrs yn esbonio sut i lawr lwytho a rheoli apiau, gweithio gyda’r sgrîn gyffwrdd, trafod eich e-bost, tynnu lluniau a llawer mwy. Dewch â’ch iPad/tabled eich hun neu ddefnyddio rhai’r Ganolfan.
Rhagor am yr iPad
Mae’r cwrs hwn yn archwilio nodweddion ac apiau newydd, gan gynnwys Rhannu Teulu, hysbysiadau gwell, modd llun treigl-amser, negeseuon grŵp gyda llais a fideo, a mwy. Mae’r cwrs yn ymdrin â diogelu eich preifatrwydd a datrys problemau eich iPad pan fyddwch yn dod eu traws.
Cymysgu miwsig ar yr iPad
Arbrofwch gyda’r meddalwedd ddiweddaraf i gynhyrchu synau a chymysgu a recordio eich traciau eich hunan. Ar y cwrs cyflwyno hwn cyflwynir chi i amrywiaeth o Apps tra’n defnyddio iPad neu dabled.
Gwneud ffilmiau ar eich iPad
Ar y cwrs cyflwyno hwn cyflwynir chi i amrywiaeth o Apps, gan gynnwys i-Movie a MovieMaker, er mwyn cynhyrchu clipiau byr o ffilmiau.
Ffotograffiaeth a golygu drwy defnyddio iPad
Cynghorion a thriciau golygu ffotograffiaeth o’n ffotograffydd a thiwtor TG cymwys. P’un a ydych yn ffotograffydd proffesiynol sy’n hoffi teithio’n ysgafn neu ffotograffydd achlysurol sydd yn hoffi y cyfleustra o ddefnyddio iPad, mae yna nifer o apps ar gyfer golygu lluniau. Cewch i’r afael â defnyddio’r camera yn ogystal â defnyddio apps golygu am ddim.
Defnyddio apiau Cymraeg
Am wella eich sgiliau Iaith Cymraeg trwy ddefnyddio iPad neu dabled? Byddwch yn cael eich cyflwyno i amrywiaeth o apiau Cymreig o eiriaduron i dafodieithoedd Gogledd a’r De. Darganfyddwch amrywiaeth eang o apiau y gellir eu defnyddio ar gyfer gwrando, darllen, siarad a chyfieithu yn ogystal â lawr lwytho llyfrau Cymraeg.
PC
Dechreuwyr TG
I gyflwyno y byd digidol i’r dechreuwr pur. Dysgwch sut mae ei droi arno a’i ddefnyddio heb ofn! Bydd y cwrs yma hefyd yn eich cyflwyno i’r rhyngrwyd.
TG Sylfaenol ar gyfer Dysgwyr Cymraeg
Ydych chi’n dysgu Cymraeg? Ydych chi am ddysgu sut i ddefnyddio cyfrifiadur trwy gyfrwng y Gymraeg? Beth am ddysgu’r ddau gyda’i gilydd? Dewch i ddosbarth i ddefnyddio’ch Cymraeg – bydd yn helpu chi gyda’ch ysgrifennu a’ch treigladau ac yn rhoi cyfle ychwanegol ichi siarad yr iaith.
Windows 10
Ddim yn siŵr p’un ai i newid i Windows 10 ai peidio? Wedi’i osod ar eich cyfrifiadur yn barod ond ddim yn siŵr sut i ddechrau arni? Dewch i un o’n diwrnodau hyfforddiant ni i ddysgu am y cyfan, gan gynnwys Microsoft Edge.
Adnabod eich Cyfrifiadur
A ydych yn gwybod sut i gadw eich cyfrifiadur mewn cyflwr da? Beth am ddysgu sut i gael eich cyfrifiadur i fihafio?
Cynnwys y cwrs:
- Darganfod cyfrinachau’r panel rheoli
- Gwneud gwaith cynnal a chadw rheolaidd
- Amddiffyn rhag firysau
- Diweddaru eich peiriant
- Gosod meddalwedd
- Dysgu beth i’w wneud pan nad yw rhaglen yn ymateb
Ar-lein
Apiau Google
Bydd hyn yn eich dysgu sut i weithio gyda gwahanol Apps a gynhwysir yn y casgliad o Google Apps, a bydd yn eich dysgu sut i sefydlu a defnyddio Gmail, Google Calendar a Google Docs ayb.
Y Rhyngrwyd ac e-bost
Mae’r cwrs sylfaenol yma ar gyfer unrhyw un sy’n dymuno gwneud defnydd o’r rhyngrwyd. Byddwch yn dysgu sut i gael mynediad i wefannau, chwilio am wybodaeth a sut i gadw’n ddiogel ar-lein. Byddwch yn creu cyfrif e-bost personol (os oes angen) ac yn dysgu sut i greu, anfon ac ateb e-byst.
Cyflwyniad i Gyfryngau Cymdeithasol
Neidiwch i fyd y cyfryngau cymdeithasol a dysgwch sut i wneud defnydd o’r gwefannau mwyaf poblogaidd er mwyn cysylltu gyda theulu a ffrindiau. Nodir y bydd angen cael cyfeiriad e-bost dilys ac yn gwybod sut i gael mynediad at y cyfrif hwn gyda’ch cyfrinair personol er mwyn cymryd rhan yn llawn a’r cwrs hwn. Yn ystod y gweithdy byddwch yn:
- derbyn cyflwyniad i rai o’r prif gyfryngau cymdeithasol yn cynnwys Facebook, Trydar, LinkedIn, Pinterest, YouTube, ayyb
- dysgu am arferion gorau cyfryngau cymdeithasol
Cyflwyniad i Facebook
Mae’r cwrs yma yn ddelfrydol ar gyfer y rhai sydd am ddefnyddio Facebook ar gyfer rhwydweithio cymdeithasol, ond yn ansicr am sut i wneud hynny. Byddwch yn dysgu sut i:
- creu cyfrif Facebook
- gosod eich gosodiadau preifatrwydd
- gosod eich proffil personol a llawer mwy
Cyfrifiadau Cwmwl
Eisiau dysgu sut i rannu ffeiliau a ffotograffau ar-lein? Am gael mynediad i’ch dogfennau lle bynnag yr ydych chi? Wedi clywed sôn am “Cyfrifiadura Cwmwl” ac yn awyddus i ddysgu mwy?
- dysgu sut i ddefnyddio Dropbox, Google Drive, One Drive, ayyb
- dysgu sut i lwytho, cael mynediad at ffeiliau/lluniau a’u rhannu
Dylunio Gwefan
Bydd y cwrs yma yn darparu cyflwyniad i dylunio gwefan i’ch helpu i greu gwefan eich hunan.
Cynnwys y cwrs:
- dyluniadau da a gwael
- cynllunio
- defnyddio lluniau
- creu baneri
- llywio
Creu Blog
Mae’r cwrs hwn ar gyfer unrhyw un sydd am rannu eu meddyliau a syniadau drwy creu blog ar y Rhyngrwyd. Ar ôl ei creu, byddwch yn gallu diweddaru eich blog yn rheolaidd gydag unrhyw wybodaeth yr ydych eisiau ei rhannu.
Ymchwilio eich Achau Teuluol
Defnyddiwch eich cyfrifiadur i gasglu ac arddangos eich coeden achau. Defnyddiwch y rhyngrwyd a ffynonellau eraill ar gyfer ymchwilio. Mireiniwch y cyflwyniad o’ch coeden achau trwy ddefnyddio dulliau aml-gyfrwng. Cofnodwch y wybodaeth trwy ddefnyddio meddalwedd Hanes Teulu.
Sgiliau TG sylfaenol yn hanfodol
Cyflwyniad i Elfennau Ffotosiop
Dysgwch sgiliau golygu sylfaenol gydag Elfennau Ffotosiop. Mae’r Elfennau yn hawdd i’w defnyddio ond yn hynod bwerus wrth wella a thrin delweddau.
iMovie
Bydd y cwrs hwn yn eich dysgu sut i greu fideos gan ddefnyddio meddalwedd iMovie Apple. Byddwch yn dysgu sut i droi eich casgliadau o’ch ffônau symudol, camerâu DSLR neu gamrecorders i ffilm byr.
Byddwch yn dysgu:
- sut i animeiddio lluniau
- sut i ychwanegu teitlau, sŵn neu gerddoriaeth
- sut i ychwanegu ac addasu Effeithiau Troshaen ar Fideos
- sut i ychwanegu ffilterau ac addasu cyflymder eich fideos i greu drama, comedi neu ychwanegu diddordeb gweledol
- sut i rannu eich ffilm fel y gellir ei chwarae ar eich dyfais Apple
- sut i gyhoeddi eich ffilmiau gan ddefnyddio platform rhannu fideos megis YouTube a Video
Ffioedd 2020/2021 (yn cynnwys ffi achredu)
- Ffi lawn – £81 y tymor neu
- Ffi ostyngol – £66 y tymor
Sylwer: Gellir cyflwyno cyrsiau yn Gymraeg, yn Saesneg neu’n ddwyieithog, rhowch wybod i ni beth yw eich dewis iaith