Sgiliau Cyfathrebu
Gwella eich darllen a ysgrifennu
Dosbarthiadau AM DDIM er mwyn i oedolion wella’ch darllen, ysgrifennu, sillafu a sgiliau cyfarthrebu. Gallwn eich cefnogi os ydych am:
- gloywi eu sgiliau
- gael cymorth er mwyn ennill TGAU neu NVQ
Os dymunwch, gallwch ddatblygu eich sgiliau llythrennedd digidol drwy weithio gyda’ch tiwtor er mwyn cyhoeddi eich gwaith ar-lein drwy wefan neu flogio beth yr ydych wedi ei greu eich hun.
Byddwch yn gweithio ar gyflymder sy’n addas i chi, mewn awyrgylch hamddenol cyfeillgar gyda thiwtoriaid sydd wedi’u hyfforddi i weithio gydag oedolion.
Sgiliau Rhifedd
Gwella eich Mathemateg
Dosbarthiadau AM DDIM er mwyn i oedolion wella’ch mathemateg a sgiliau cyfathrebu. Gallwn eich cefnogi os ydych am:
- gloywi eu sgiliau
- gael cymorth er mwyn ennill TGAU neu NVQ
Byddwch yn gweithio ar gyflymder sy’n addas i chi, mewn awyrgylch hamddenol cyfeillgar gyda thiwtoriaid sydd wedi’u hyfforddi i weithio gydag oedolion.
Iaith Arwyddion Prydeinig (BSL)
Cyflwyniad
Nod hyn yw datblygu gallu i gyfathrebu â phobl byddar mewn BSL ar ystod o bynciau sy’n cynnwys defnyddio iaith syml, bob dydd, fel gwybodaeth bersonol, sillafu bys, rhifau, lliwiau, y tywydd, trafnidiaeth, cyfarwyddiadau, diddordebau, bwyd a diod. Mae’r cwrs hwn yn addas ar gyfer dysgwyr heb unrhyw wybodaeth blaenorol am BSL.
Ffioedd 2020/2021
- Ffi lawn – £67 y tymor neu
- Ffi ostyngol – £52 y tymor
- Ffioedd achredu sy’n berthnasol
Lefel 1
Cwrs 66 awr dros dri thymor yw hwn ar gyfer dysgwyr sy’n dymuno datblygu sgiliau addas a phriodol i gyfathrebu’n anffurfiol â phobl fyddar drwy gyfrwng Iaith Arwyddion Prydain. Caiff ei achredu gan iBSL.
Mae Dyfarniad Lefel 1 IBSL mewn Astudiaethau Iaith Arwyddion Prydain yn cynnwys 3 uned orfodol. Mae’r cymhwyster hwn yn un o amrywiaeth eang o gymwysterau sydd wedi’u datblygu’n ddiweddar fel camau cychwynnol ar lwybr a allai yn y pen draw arwain at sicrhau statws cyfieithydd iaith arwyddion cymwysedig, neu yrfa yn gweithio gyda phobl fyddar mewn sefyllfaoedd lle mae iaith arwyddion yn cael ei defnyddio fel ffordd o gyfathrebu bob dydd.
Ffioedd 2020/2021
- Ffi lawn – £73.70 y tymor neu
- Ffi ostyngol – £57.20 y tymor
- Ffi achredu 2020/2021 – £120 yn daladwy mewn 3 rhandaliad
Lefel 2
Bwriad y cymhwyster hwn yw gwella profiadau a datblygu cyfathrebu pobl Fyddar drwy’r Iaith Arwyddion Prydain (BSL) gyda gan ddelio â phynciau bob dydd yn ymwneud â bywyd cymdeithasol a’r gwaith, ysgol neu goleg.
Bydd cwrs Lefel A2 yn datblygu cyfathrebu mewn BSL yn fwy manwl na Lefel 1, a bydd angen deall mwy o ramadeg i ymdopi â pheth iaith llai arferol.
Ffioedd 2020/2021
- Ffi lawn – £67 y tymor neu
- Ffi ostyngol – £52 y tymor
- Ffi achredu 2020/2021 – £165 yn daladwy mewn 3 rhandaliad
Codi Hyder
Ydych chi’n brin o hyder wrth siarad â phobl neu mewn sefyllfaoedd anghyfarwydd? Dysgwch dechnegau ymarferol i godi eich hyder a’ch hunan-barch.
CV a Sgiliau Cyfweliad
Bydd y cwrs hwn yn eich helpu i adnabod beth mae cyflogwyr yn chwilio amdano, dysgu sut i strwythuro CV gwych ac ymarfer eich sgiliau cyfweliad.
Sylwer: Gellir cyflwyno cyrsiau yn Gymraeg, yn Saesneg neu’n ddwyieithog, rhowch wybod i ni beth yw eich dewis iaith