Cyllid ReAct
Cyllid ReAct**
Wedi colli’ch swydd yn ddiweddar neu’n wynebu hynny?
Efallai bod hawl gennych i hyd at £1500 o gyllid ReAct i’ch helpu i wella eich sgiliau a dychwelyd i’r gwaith. Os oes angen ailhyfforddi ac ennill sgiliau newydd arnoch i’ch helpu i gael gwaith newydd, mae’r rhaglen yn rhoi cyfle i bob unigolyn i gofrestru ar Gyrsiau hyfforddi Galwedigaethol, gwerth hyd at £1500.
Rydych yn gymwys os ydych:
- wedi cael eich diswyddo yn y tri mis diwethaf, yn ddi-waith ar hyn o bryd, heb fod mewn cyflogaeth barhaus am chwe wythnos neu ragor ers cael eich diswyddo
- o dan rybudd o diswyddo ar hyn o bryd
- heb gael unrhyw hyfforddiant wedi’i gyllido’n gyhoeddus ers y diswyddiad, gan gynnwys y gyfres o raglenni dysgu seiliedig ar waith
Mae rhaglen gyllido ReAct hefyd yn cynnig grant i ddarpar gyflogwr am eich cyflogi, gyda grantiau pellach tuag at hyfforddiant yn y gwaith wedi i chi ddechrau gweithio.
Er mwyn sicrhau bod yr hyfforddiant hwn yn rhoi’r cyfle gorau i chi o gael gwaith newydd, bydd angen i chi gael eich asesu gan Gyrfa Cymru o ran eich anghenion hyfforddi.
Cysylltwch â Gyrfa Cymru 0800 028 4844
**Rhaglen gyllido hyfforddiant yw Cynllun Diswyddiadau ReAct wedi’i ddarparu gan Lywodraeth Cymru.
Gweithffyrdd+
Gweithffyrdd+ yn helpu pobl nôl i waith
Gall Gweithffyrdd+ gynorthwyo eich busnes trwy:
- darparu gwasanaeth recriwtio am ddim i gyflogwyr a gweithwyr posib
- help i wneud recriwtio yn haws a gyflymach
- darparu ymgeiswyr addas ar gyfer swyddi gwag
- cynorthwyo gyda threialon gwaith a diwrnodau rhagflas
- paratoi darpar ymgeiswyr trwy rhoi hyfforddiant addas
Hefyd, gall Gweithffyrdd+ rhoi cefnogaeth i chi os ydych dros 25 oed, yn ddiwaith am gyfnod hir / yn economaidd anweithgar ac meddu ar rwystrau cymhleth i waith (hynny yw, dim sgiliau neu ychydig o sgiliau yn unig, cyflwr iechyd sy’n cyfyngu ar eich gwaith, cyfrifodleb gofal neu ofal plant, o gartref lle mae pawb yn ddiwaith neu o grŵp Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig, neu dros 54 oed).
Os ydych chi’n gwybod am unrhyw un all fanteisio o’r gefnogaeth yma neu cyflogwyr sydd yn edrych i cyflogi mae croeso i chi ein ffonio ar 01545 574193 neu ewch i’r gwefan www.workways.wales.
Cymorth Cyflogaeth i Rieni
Rhaglen Sgiliau Hyblyg
Ydy sgiliau cyfredol eich busnes yn cyfyngu ar ei lwyddiant? Ydy’ch busnes chi’n ystyried cyfle busnes newydd, technoleg newydd, cynllun ehangu a thwf?
I gael rhagor o wybodaeth ewch i dudalen Rhaglen Sgiliau Hyblyg Busnes Cymru.
Sgiliau Bwyd Cymru
Mae Sgiliau Bwyd Cymru yn darparu hyfforddiant ar gyfer y diwydiant prosesu a gweithgynhyrchu bwyd a diod o Gymru i sicrhau bod gan weithwyr y sgiliau priodol. Mae arian ar gael ar gyfer cwblhau hyfforddiant technegol a datblygu staff – yn achrededig ac anachrededig.
I gael rhagor o wybodaeth ewch i’r dudalen Cefnogaeth a Ariennir ar wefan Sgiliau Bwyd Cymru.
Cyswllt Ffermio
Mae rhaglen Cyswllt Ffermio yn cefnogi datblygiad sector diwydiannau tir mwy proffesiynol, proffidiol a gwydn. Mae’n cynnwys rhaglen integredig o drosglwyddo gwybodaeth, arloesi a gwasanaethau cynghori sydd wedi’u cynllunio i sicrhau mwy o gynaliadwyedd, gwell cystadleurwydd, a gwell perfformiad amgylcheddol.
I gael rhagor o wybodaeth ewch i dudalen Cymhorthdal ar gael ar gyfer cyrsiau hyfforddiant achrededig Cyswllt Ffermio ar wefan Cyswllt Ffermio.