Datblygiad Proffesiynol Parhaus

Ymarferydd Sgiliau Hanfodol (Lefel 3)

Mae’r cyrsiau Ymarferwyr Sgiliau Hanfodol ar gyfer Rhifedd, Llythrennedd a Llythrennedd Digidol yn rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau ymarferol sydd eu hangen ar ymarferwyr addysgu i asesu, cynllunio a darparu dysgu sgiliau hanfodol. Os byddwch yn cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus, byddwch yn cael Tystysgrif Lefel 3 Agored Cymru.

Darperir y cwrs hwn yn rhithwir ac mae’n cynnwys dau arsylwad o arfer addysgu. Mae angen cwblhau tair uned ar gyfer pob cymhwyster yn y testunau cynllunio, darparu ac asesu dysgu sgiliau hanfodol, ac un uned sy’n gyffredin i bob un o’r tri chymhwyster ar ddeall anghenion oedolion a phobl ifanc fel dysgwyr sgiliau hanfodol.

I gwblhau’r cwrs hwn, bydd angen i chi fod yn gweithio gydag o leiaf dri dysgwr sgiliau hanfodol a byddwch yn cael y cyfle i gytuno ar gynlluniau dysgu unigol a’u cynhyrchu. Bydd angen 15 awr gyflawn o arfer addysgu arnoch hefyd.

Sylwer: Gellir cyflwyno cyrsiau yn Gymraeg, yn Saesneg neu’n ddwyieithog, rhowch wybod i ni beth yw eich dewis iaith